Ymchwil

Mae ein hymchwil yn cwmpasu pedair o themâu bras:

  • Asesu ac ymyrraeth ymarferol
  • Prosesau niwrowybyddol sy’n ymwneud â darllen a dyslecsia
  • Coforbidrwydd sy’n ymwneud ag anhwylderau dysgu
  • Dwylythrennedd a dwyieithrwydd


Ers y pandemig COVID-19, mae llawer o'r gwaith ymchwil ac ymyrraeth a wnawn bellach yn cynnwys platfform ar-lein, a dysgu o bell www.rillresearch.org ac asesu o bell www.eldel-mabel.net. Rydym hefyd yn darparu datblygiad proffesiynol i ymarferwyr sy'n gweithio gyda'r unigolion hynny.

Asesu ac ymyrraeth ymarferol

Cyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL)


Datblygwyd batri MABEL dros dair blynedd (2008 - 2011) fel rhan o astudiaeth draws-ieithyddol, arhydol, a honno’n un fawr, o ddatblygiad llythrennedd cynnar yn y Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Tsieceg a Slofaceg, o fewn ELDEL (Gwella Datblygiad Llythrennedd mewn Ieithoedd Ewropeaidd). Ariannwyd y prosiect gan Rwydwaith Hyfforddiant Cychwynnol Marie Curie, Seithfed Rhaglen Fframwaith (FP7 / 2007-2013) o dan Gytundeb Grant rhif. 215961. Prif nod y project oedd egluro rhagfynegwyr gwybyddol, ieithyddol ac amgylcheddol craidd datblygiad llythrennedd plant o'r cyfnod derbyn (kindergarten) hyd at flwyddyn 2 (second grade). Cynhaliwyd pum astudiaeth gyfochrog, un ym mhob gwlad. Dechreuodd y gwaith ar brosiect MABEL yn 2015 ac fe’i rhannwyd yn rhyngwladol yn 2018. Ar hyn o bryd, mae’r deunyddiau prawf ar gael yn Saesneg, Sbaeneg, Tsiec, Slofacia a Chymraeg, ac mae’r deunyddiau Ffrangeg ar ddod. Yn ogystal, mae fersiynau Portiwgaleg a Phwyleg o'r batri yn cael eu datblygu.


Cyswllt: m.caravolas@bangor.ac.uk
Gwefan: www.eldel-mabel.net

Cyfarwyddyd o Bell Llythrennedd ac Iaith (RILL)


Caiff y prosiect Cyfarwyddyd o Bell Llythrennedd ac Iaith (RILL) ei gynllunio a'i gynnal gan ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg, a Chanolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor. Mae'n cynnwys rhaglen iaith a llythrennedd fer i blant Cyfnod Allweddol 2 ac fe'i lansiwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19 a'r cyfnod clo cenedlaethol a ddaeth yn ei sgil fis Ebrill 2020. Ein cenhadaeth yw sicrhau y gall plant barhau i dderbyn yr hyfforddiant llythrennedd gorau posibl tra bo’r ysgolion ar gau, ac adennill sgiliau llythrennedd yn gyflym unwaith y bydd yr ysgolion yn ailagor.


Cyswllt: manon.jones@bangor.ac.uk, c.downing@leedstrinity.ac.uk 


Gwefan: www.rillresearch.org

Prosesau niwrowybyddol sy’n ymwneud â darllen a dyslecsia

Defnyddio symudiadau’r llygaid i ddeall dysgu ystadegol ac integreiddio clyweledol mewn oedolion sy’n ddarllenwyr medrus a dyslecsia datblygiadol

Wrth ddysgu darllen rhaid i blant greu cysylltiadau mympwyol rhwng symbolau gweledol (llythrennau) a'u henwau a'u synau. Gellir dadlau mai'r gallu hwnnw yw sylfaen waelodol y gallu i ddarllen, ac rydym yn dadlau mai diffyg gallu effeithiol i greu'r cysylltiadau hynny sydd wrth wraidd anawsterau darllen fel dyslecsia datblygiadol. Yn ein gwaith rydym yn defnyddio dulliau olrhain llygaid yn ogystal â mesurau ymddygiadol a niwrowybyddol eraill megis mesuriadau potensial sy'n gysylltiedig â digwyddiadau, i archwilio sut mae darllenwyr medrus a llai medrus yn caffael y cysylltiadau gweledol-llafar hyn, a nodweddion gwahanol arddulliau dysgu ystadegol y darllenwyr hynny. Ein nod yw dangos sut mae arddull ddysgu’r darllenwyr medrus yn caniatáu iddynt adnabod cysylltiadau gweledol-llafar yn gyflym ac yn effeithlon, tra bo arddull darllenwyr llai medrus yn peri diffyg gydol oes.


Cyswllt: manon.jones@bangor.ac.uk

Coforbidrwydd sy’n ymwneud ag anhwylderau dysgu

Gwelwn yn aml fod pobl â dyslecsia yn fwy tebygol o brofi anawsterau sy'n cyd-ddigwydd, neu'n goforbidaidd, fel problemau gyda’r sylw, cydlynu symudiadau, a phrosesu rhifol. Mae ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â'r ganolfan yn ymchwilio i natur anhwylderau llythrennedd sy'n cyd-ddigwydd (e.e. dyslecsia) ac anhwylderau cydlynu symudiadau (e.e. anhwylder cydgysylltu datblygiadol). Sefydlodd prosiect diweddar fod plant sydd ag anawsterau o ran llythrennedd neu gydlynu symudiadau bum gwaith yn fwy tebygol o fod ag anhawster cydlynu symudiadau neu lythrennedd sy'n cyd-ddigwydd na phlant sydd heb unrhyw anawsterau. Canfu'r prosiect hwn hefyd fod y risg uwch hon o anawsterau sy’n cyd-ddigwydd yn debygol o ddeillio o ffactorau risg a rennir rhwng llythrennedd ac anhwylderau cydlynu symudiadau. Mewn prosiect dilynol, ymchwilir i natur anhwylderau llythrennedd, cydlynu symudiadau a llawysgrifen sy’n cyd-ddigwydd.

Cyswllt: c.downing@leedstrinity.ac.uk, m.caravolas@bangor.ac.uk

Dwylythrennedd a dwyieithrwydd

Yn y mwyafrif o ieithoedd Ewropeaidd, mae cysylltu llythrennau â synau yn eithaf syml, gan fod cyfatebiaeth un i un yn aml. Fodd bynnag, mae yna eithriadau, ac mae ieithoedd fel Saesneg a Ffrangeg yn arbennig yn fwy cymhleth i'w darllen a'u sillafu: gall llythrennau a chlystyrau o lythrennau gael mwy nag un ynganiad. Yn ein labordai, rydym yn archwilio sut mae plant yn dysgu i gael dwy neu fwy o systemau ysgrifennu, neu “orgraffau”, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu harddull darllen, a'u deilliannau darllen. Rydym yn defnyddio dulliau fel tracio llygaid ac EEG yn ogystal â dyluniadau hydredol, sy'n dilyn cynnydd plant dros sawl mis neu flynyddoedd.