Datblygiad Proffesiynol a Hyfforddiant Athrawon

Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth am ddyslecsia mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol.

Oherwydd ein cysylltiad â'r Ysgol Seicoleg yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, mae ein Gwasanaeth Addysgu hefyd yn falch o fod â rhan weithredol mewn hyfforddi myfyrwyr sydd â diddordeb mewn addysg, ac sydd ag arbenigeddau mewn hyfforddi iaith a llythrennedd. Mae ein myfyrwyr wedi dod yn rhan werthfawr o'n gweithgareddau addysgu.

Rydym yn cynnig y gwasanaeth canlynol yn y ganolfan:

Amrywiaeth o gyrsiau wedi eu hachredu gan Gymdeithas Ddyslecsia Prydain ar gyfer athrawon cymwys a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes addysg

Mae Canolfan Dyslecsia Miles wedi'i hachredu gan Gymdeithas Ddyslecsia Prydain i ddarparu cyrsiau datblygiad proffesiynol i athrawon.

  • Athrawon Cyswllt / Ymarferwyr Cynorthwyol: Cwrs Astudiaethau Proffesiynol Pellach mewn Anawsterau Dysgu Penodol / Dyslecsia - cwrs blwyddyn hunangynhwysol sy'n cael ei redeg fel modiwl yn y rhaglen MA rhan amser. Cynhelir y cwrs rhan-amser hwn ar y cyd ag Ysgol Addysg Prifysgol Bangor ac mae angen mynychu ar 5 penwythnos yn ystod y flwyddyn academaidd; mae angen 40 awr o astudio ac mae'n cynnwys elfen ymarfer dysgu o 20 awr o addysgu unigol yn ardal leol y myfyriwr. Caiff hyn ei oruchwylio gan diwtor personol a recordir y gwersi. 
  • Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus gall myfyrwyr wneud cais i Gymdeithas Ddyslecsia Prydain am Statws Athro Cymeradwy neu Statws Ymarferydd Cymeradwy. Fe'u cydnabyddir wedyn yn athrawon dyslecsia arbenigol.
  • Aelodaeth Gyswllt gyda Chymdeithas Ddyslecsia Prydain: Dau fodiwl ar Ddyslecsia: Theori ac Ymarferol, ac un ar Asesu yn y rhaglen Diploma/Meistr Ôl-raddedig rhan amser, hefyd wedi ei chynnal ar y cyd ag Ysgol Addysg Prifysgol Bangor. Mae hyn yn gofyn mynychu 5 penwythnos yn ystod y flwyddyn academaidd gyda’r cwrs yn para dwy neu dair blynedd, yn dibynnu ar gylch y modiwlau. Mae'n gofyn am 90 awr o astudio ac mae'n cynnwys elfen ymarfer dysgu o 30 awr o addysgu unigol yn ardal leol y myfyriwr. Goruchwylir hyn gan diwtor personol a chaiff gwersi eu recordio. Mae'r modiwl Asesu hefyd yn gofyn i'r athro gynnal asesiad gyda rhywun yn ei arsylwi. Gellir recordio’r asesiad.
  • Ar ôl cwblhau'r tri modiwl yn llwyddiannus, gall myfyrwyr wneud cais i Gymdeithas Ddyslecsia Prydain am aelodaeth gyswllt ac am Dystysgrif Ymarfer Asesu. Fe'u cydnabyddir wedyn yn athrawon ac aseswyr arbenigol.
  • O dan y rheoliadau cyfredol, mae athrawon sydd ag aelodaeth gyswllt o’r Gymdeithas, a Thystysgrif Ymarfer Asesu, yn cael eu cydnabod gan y Cyd-Fwrdd Arholi fel rhai sy'n gymwys i asesu disgyblion sydd angen trefniadau arbennig ar gyfer profion TASau, arholiadau TGAU a'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
  • Nid yw'n ofynnol i'r rhai sy'n dymuno cofrestru ar y cyrsiau uchod feddu ar Statws Athro Cymwysedig ond bydd angen dwy flynedd o brofiad addysgu amser llawn (neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny) yn yr ystafell ddosbarth.  Ymholiadau i Joanna Dunton, Cydlynydd y Gwasanaeth Addysgu.

 

Gweithdai a sesiynau hyfforddi i rieni, ysgolion unigol ac Awdurdodau Addysg Lleol drwy drefniant

Os ydych chi'n ystyried pecyn/diwrnod hyfforddi, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.  Mae sesiynau pwrpasol yn cael eu datblygu â chryn ofal i dargedu eich gofynion penodol.

Mae sesiynau o’r fath wedi cael eu cyflwyno i Heddlu Gogledd Cymru, Awdurdod Addysg Lleol Sir Ddinbych, ysgolion lleol, grwpiau rhieni a Sylfaen ymhlith eraill.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk.

Cyngor a gwasanaeth ymgynghori i rieni, athrawon ac ysgolion

Cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk.