Addysgu ac ymyrraeth ar sail tystiolaeth

children reading

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau addysgu arbenigol i fyfyrwyr (o 5 oed i oedolion). Mae ein hathrawon yn gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor i sicrhau bod myfyrwyr yn elwa ar y technegau addysgu gorau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i wella eu sgiliau. Gall hyfforddiant arbenigol wella medrau darllen, ysgrifennu, sillafu a rhifedd myfyrwyr. Ar gyfer myfyrwyr hŷn, gall sesiynau dargedu sgiliau astudio a chefnogi'r defnydd o dechnoleg wrth ddysgu, gan gynllunio'r ffordd orau o ddefnyddio amser a strwythuro darnau hirach o waith. Mae hunanhyder yn rhan allweddol o ddysgu, ac mae ein tiwtoriaid yn gweithio gyda myfyrwyr i wella eu cred yn eu hunain a'u hagwedd tuag at ddysgu. Mae gan ein hathrawon arbenigol gymwysterau cydnabyddedig i ddysgu plant â gofynion ychwanegol a phrofiad o weithio gyda myfyrwyr o bob oed. Mae staff yn y Ganolfan hefyd yn cynnig cyngor a gwasanaeth ymgynghori i rieni, athrawon a chyflogwyr.


Rydym yn cynnig y gwasanaeth canlynol yn y ganolfan:

1: 1 Gwasanaeth addysgu arbenigol i blant

Mae gan ein hathrawon arbenigol gymwysterau cydnabyddedig i ddysgu plant â gofynion ychwanegol, a chyfoeth o brofiad perthnasol. Rydym yn cynnal sesiynau dysgu ar ôl ysgol i blant rhwng 6 ac 16 oed.

Bydd pob plentyn yn elwa o raglen wedi'i theilwra'n unigol i ddarparu ar gyfer eu hanghenion, ac sy'n addas ar gyfer plant sy'n dysgu trwy gyfrwng Saesneg neu Gymraeg (neu'r ddau). Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi llythrennedd a rhifedd, yn enwedig ar gyfer plant â dyslecsia neu ag anawsterau dysgu penodol eraill.

  • Cynhelir gwersi yn wythnosol, ac maent ar gael mewn sesiynau 30 munud, 45 munud neu awr o hyd.
  • Rhaid archebu sesiynau mewn blociau o hanner tymor i sicrhau cynnydd. Sylwch fod myfyrwyr yn debygol o fod angen mwy nag un bloc o wersi i wella eu sgiliau yn sylweddol.
  • Ar gyfer plant sy'n mynychu'r ysgol uwchradd, rydym hefyd yn cynorthwyo gyda sgiliau astudio ac ysgrifennu, sgiliau rheoli amser a threfnu ac yn rhoi cefnogaeth gyda’r cwricwlwm. Ein nod hefyd yw cryfhau sgiliau cymdeithasol a hyder cyffredinol.

Mae gan ein hathrawon arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA.


I wybod mwy neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

 

LEAPS (Cwrs Dydd Sadwrn Llamu i Lythrennedd)

Mae’r rhaglen hon wedi ei llunio i blant 6-11 oed a allai gael budd o raglen bwrpasol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith lafar ac ysgrifenedig mewn grwpiau bach a sesiynau un i un. Cânt eu dysgu gan athrawon arbenigol a myfyrwyr graddedig ac israddedig prifysgol Bangor sydd wedi'u hyfforddi at y diben. Gallwch ddewis i'ch plentyn ddilyn y rhaglen naill ai yn Saesneg neu'n Gymraeg.

  • Bydd pob sesiwn yn cynnwys awr o waith grŵp llafar gydag athro arbenigol ac ail awr o waith llythrennedd un i un gyda myfyriwr israddedig/graddedig hyfforddedig o Fangor.
  • Mae'r cwrs LEAPS cyfan yn 12 awr, sy'n cynnwys asesiadau sgiliau cyn dechrau’r rhaglen ac eto ar y diwedd. Caiff pob plentyn adroddiad cryno gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau pellach.
  • Dyluniwyd LEAPS i wella sgiliau darllen, ysgrifennu a sillafu. Bydd plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar yn cynnwys gwrando ar straeon, dysgu geirfa a gweithio gyda geiriau - sgiliau sydd i gyd yn hybu datblygiad llythrennedd.
  • Mae LEAPS hefyd wedi'i gynllunio i helpu plant i ddysgu gyda'u cyfoedion mewn grwpiau bach, mewn parau ac yn unigol.

I wybod mwy neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk
 

Awdurdodau Addysg Lleol a Dysgu mewn Ysgolion

Mae gwaith Canolfan Dyslecsia Miles yn ymestyn dros ardal gogledd-orllewin Cymru, sy’n ardal eang iawn ac yn wledig gan fwyaf. O ganlyniad, mae athrawon arbenigol y Ganolfan, fel rheol, yn gweithio gyda disgyblion yn eu hysgolion eu hunain, ac yn cynnig hyfforddiant yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl yr angen penodol. Mae'r athrawon arbenigol, sy'n ffurfio'r tîm addysgu, yn gweithio agos gyda'r ysgolion a'r Awdurdodau Addysg Lleol dan sylw. Mae athrawon Canolfan Dyslecsia Miles yn dilyn System Addysgu Dyslecsia Bangor, ac mae gan aelodau’r tîm ran lawn yn y gwaith o ddatblygu deunyddiau addysgu yn y Gymraeg a’r Saesneg.


Mae ein dull dysgu wedi ei lunio i blant sydd mewn addysg uniaith neu ddwyieithog.

  • Rhoddir gwersi naill ai mewn sesiynau hanner awr neu awr o hyd bob wythnos.
  • Mae'r gwersi yn seiliedig ar y dull ffoneg ac yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio dulliau amlsynhwyraidd.


I wybod mwy neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

 

Sesiwn datblygu sgiliau i oedolion

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o athrawon arbenigol profiadol iawn yn y maes hwn. Gallwn gynnal sesiynau datblygu sgiliau i oedolion, naill ai mewn addysg neu yn y gweithle, i ddatblygu'r sgiliau a'r strategaethau sydd eu hangen ar gyfer gweithio'n llwyddiannus.

  • Mae ein dull addysgu wedi'i ddylunio a'i deilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol; bydd ein hathrawon arbenigol yn cytuno ar nifer y sesiynau gyda chi.
  • Gallwn helpu gyda sgiliau trefnu, rheoli amser, cyflwyniadau, cyfweliadau, arholiadau a phrofion a chyda darllen ac ysgrifennu.
  • Cynigir awgrymiadau ar gyfer cymorth TG priodol.
  • Mae sesiynau ar gael am 1 neu 2 awr ac maent wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu sgiliau a strategaethau priodol yn hyderus.

    I wybod mwy neu i drefnu sesiwn, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk