STARs (Athrawon Asesu ac Adrodd Arbenigol)
Mae’r athrawon asesu ac adrodd arbenigol yn asesu pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed.
Mae ein haseswyr yn gymwys i adnabod anawsterau dysgu penodol; maent wedi eu cofrestru gyda’r cyrff proffesiynol perthnasol; ac mae ganddynt y tystysgrifau ymarfer gofynnol i asesu ac ysgrifennu adroddiadau ar bobl ifanc at ddibenion amrywiol.
Rydym yn cynnig:
- Asesiad diagnostig llawn: mae hwn yn cynnwys cyfres o brofion gwybyddol a phrofion llythrennedd i adnabod anhawster dysgu penodol.
- Asesu ar gyfer addasiadau’n ymwneud ag arholiadau: Mae hwn yn cynnwys cyfres o brofion llythrennedd sy’n cyflawni gofynion y bwrdd arholi o ran TGAU, AS a Lefel A.