Asesiadau child reading

Mae tîm Canolfan Dyslecsia Miles o aseswyr arbenigol a seicolegwyr addysg cymwys dros ben yn darparu amrywiaeth eang o asesiadau ar gyfer oedolion a phlant.

Mae ein haseswyr a’n seicolegwyr addysg yn gymwys i gynghori a sgrinio a/neu asesu am anawsterau dysgu penodol. Maent i gyd wedi cofrestru gyda chyrff proffesiynol perthnasol (e.e. HCPC, PATOSS, BDA), ac maent i gyd yn meddu ar dystysgrifau ymarfer i asesu ac ysgrifennu adroddiadau arbenigol.

Mae’r drefn asesu gyflawn, yn cynnwys profi a thrafodaeth, yn cymryd tua dwy i bedair awr a byddwch yn derbyn adroddiad ysgrifenedig llawn gydag argymhellion a manylion am y perfformiad o fewn pedair wythnos waith.

Rydym yn cynnig yr asesiadau canlynol yn y ganolfan:

Asesiadau Trefniadau Mynediad

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwysedig profiadol iawn: Gallwn gynnig asesiadau trefniant mynediad i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed.

Gellir cynnal asesiad trefniadau mynediad ar gyfer disgyblion o Flwyddyn 9 ymlaen sy’n dymuno cael eu hystyried i gael addasiad arholiad ar gyfer TGAU, a lefel A. Bydd ein haseswyr yn cynghori ar drefniadau mynediad perthnasol a phriodol; fodd bynnag, mae’r ysgol yn gyfrifol am weinyddu trefniadau mynediad a’u cymhwyso i’r corff dyfarnu – ac mae’n rhaid cael trafodaeth gyda’r ysgol.

  • Gellir llenwi Ffurflen 8 Cyngor Cymwysterau ar y Cyd (JCQ) yn rhannol gyda sgoriau profion cymwys.
  • Gellir gwneud argymhellion ar gyfer trefniadau mynediad mewn arholiadau.
  • Darperir adroddiad byr yn cynnwys crynodeb o gryfderau a gwendid gwybyddol, ynghyd â thabl o ganlyniadau profion ac unrhyw argymhellion pellach.
  • Gall ein tîm gynnig cyngor ynglŷn â’r broses.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch
dyslex-admin@bangor.ac.uk

Asesiad Seicolegol Addysgol

Mae Canolfan Dyslecsia Miles yn gweithio gyda thîm o Seicolegwyr Addysg cymwys, profiadol iawn sydd â phrofiad cefndir o weithio mewn AALlau. Gallwn gynnig asesiadau llawn ar gyfer oedolion a phlant o 7 oed.

Gall asesiad helpu i benderfynu a oes gan unigolyn ddyslecsia, neu unrhyw anhawster dysgu penodol (SpLD) arall. Mae’r asesiad ei hun yn darparu proffil gallu gwybyddol llawn, ac mae’n cynnwys ystod o asesiadau unigol gan gynnwys tasgau geiriol, di-eiriau, rhifedd a llythrennedd a all, o’u cymryd gyda’i gilydd, nodi presenoldeb Dyslecsia neu anawsterau dysgu penodol eraill.

  • Gellir defnyddio diagnosis i sicrhau bod addasiadau rhesymol priodol ar gyfer cefnogaeth mewn addysg, neu yn y gweithle, yn cael eu rhoi ar waith.
  • Gall hefyd fod yn hynod bwysig ar gyfer hunanhyder a lles emosiynol.
  • Gellir cynnig yr asesiadau yn ddwyieithog.

Mae ein Seicolegwyr Addysg wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd (HCPC) ac mae ganddynt Dystysgrifau ymarfer cyfredol, maent hefyd yn aelodau o Gymdeithas y Seicolegwyr Addysg (AEP).

Am wybodaeth bellach neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch
dyslex-admin@bangor.ac.uk

Tîm Asesu ac Adrodd Addysg Uwch

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwysedig profiadol iawn: Tîm Asesu ac Adrodd Addysg Uwch. Rydym yn cynnal asesiadau ar gyfer oedolion, myfyrwyr o brifysgolion eraill a myfyrwyr Prifysgol Agored.

Mae asesiad yn pennu a oes gan unigolyn ddyslecsia neu unrhyw anhawster dysgu penodol arall. Mae’r asesiad yn cynnwys cyfres o brofion gwybyddol a llythrennedd i nodi dyslecsia ac unrhyw anhawster dysgu penodol arall.

  • Gall diagnosis fod yn ddefnyddiol er mwyn gwneud addasiadau rhesymol priodol i gael cefnogaeth gydag addysg neu yn y gweithle.
  • Gall myfyrwyr addysg uwch wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
  • Mae gan fyfyrwyr Prifysgol Agored hawl i gael addasiad rhesymol i gefnogi eu hastudiaeth.
  • Gall oedolion sy’n gweithio fod yn gymwys i gael cefnogaeth o dan gynllun Mynediad i Waith y llywodraeth.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

Asesiad Sgiliau Llythrennedd

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwysedig profiadol iawn: Gallwn gynnig asesiadau sgiliau llythrennedd i blant/oedolion o bob oed.

Nid yw asesiad sgiliau llythrennedd yn ddiagnosis o ddyslecsia nac unrhyw anhawster dysgu penodol arall ond bydd yn pennu meysydd cryfder a gwendid yng ngallu llythrennedd unigolyn. Mae’r asesiad yn cynnwys amrywiaeth o sgiliau sy’n gysylltiedig â llythrennedd, nid darllen, sillafu ac ysgrifennu yn unig. Caiff adroddiad cynhwysfawr ei ysgrifennu yn seiliedig ar hyn.

  • Ar gyfer plant: Rhoddir amrywiaeth o argymhellion penodol ac awgrymiadau am y ffordd orau i gefnogi’r plentyn yn yr ysgol a’r cartref.
  • Ar gyfer grwpiau oedran eraill: Bydd yr argymhellion yn mynd i’r afael ag anghenion yr unigolyn yn y cartref/gweithle a sut y gellir gwneud addasiadau.
  • Mae cysylltiadau defnyddiol, awgrymiadau ar gyfer cymhorthion llythrennedd a chymorth technoleg gwybodaeth wedi eu cynnwys.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

Asesiad Sgiliau Rhifedd

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwysedig profiadol iawn: Gallwn gynnig asesiadau sgiliau rhifedd i blant yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2.

Nid yw asesiad sgiliau rhifedd yn ddiagnosis o ddyscalcwlia ond bydd yn pennu meysydd cryfder a gwendid rhifiadol mewn plant ifanc. Cynhelir yr asesiad fel dau brawf ar wahân a bydd yn cynnwys gwybodaeth ffurfiol ac anffurfiol am sgiliau rhifedd.

  • Ysgrifennir adroddiad llawn yn rhoi manylion canlyniadau’r asesiad.
  • Rhoddir amrywiaeth o argymhellion cynhwysfawr, yn cynnwys canllawiau ar y ffordd orau i gefnogi’r plentyn yn yr ysgol a’r cartref.
  • Bydd cysylltiadau â chymhorthion rhifedd, llenyddiaeth a chefnogaeth technoleg gwybodaeth ac awgrymiadau ymarferol hefyd yn cael eu cynnwys.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

Prawf Sgrinio

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwysedig profiadol iawn: Rydym yn cynnal profion sgrinio ar gyfer oedolion.

Nid yw prawf sgrinio yn ddiagnosis o ddyslecsia, ond ei fwriad yw rhoi syniad o anawsterau dysgu penodol posibl. Mae’r asesiad yn cynnwys trafodaeth (i gasglu gwybodaeth gefndir) a nifer o brofion byr. Bydd prawf sgrinio yn rhoi darlun proffil o gryfderau a gwendidau.

  • Gellir argymell asesiad Asesu ac Adrodd Addysg Uwch dilynol i bennu natur anawsterau, yn enwedig os oes angen diagnosis ffurfiol ar gyfer addysg neu’r gweithle.
  • Gall ein tîm gynnig cyngor ynglŷn â’r broses.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu prawf sgrinio, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

Athrawon Asesu ac Adrodd Arbenigol

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwysedig profiadol iawn: Athrawon Asesu ac Adrodd Arbenigol. Gallwn gynnig asesiadau i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.

Bydd asesiad yn edrych ar y posibilrwydd o ddyslecsia a gall archwilio materion eraill o fewn sbectrwm anawsterau dysgu penodol (e.e. dyspracsia). Bydd yr asesiad yn cynnwys amrywiaeth o brofion mewn gallu gwybyddol a llythrennedd.

  • Mae asesiad Seicolegydd Addysg yn well ar gyfer plant iau (ysgol gynradd) a’r rhai ag anghenion mwy cymhleth.
  • Gellir cynghori plant ar ddechrau’r ysgol uwchradd i aros tan eu bod yn nes at gyfnod arholiadau oherwydd efallai y byddant angen ailasesiad ar gyfer arholiadau. Fodd bynnag, gall asesiad cynharach adeiladu “hanes o angen” a hysbysu rhieni a’r ysgol.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

Asesiad Anghenion yn y Gweithle

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwys, profiadol iawn sy’n gallu cynnal Asesiadau Anghenion yn y Gweithle, gan edrych ar bob agwedd ar amgylchedd gwaith gweithiwr.

Gellir defnyddio Asesiad Anghenion yn y Gweithle i nodi’r addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen ar weithiwr, gyda dyslecsia neu unrhyw Anawsterau Dysgu Penodol eraill, gan sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu swydd hyd eithaf eu gallu. Mae hyn yn ofyniad dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r asesiad yn cynnwys trafodaeth fanwl gyda’n haseswr, gan ystyried swydd ac amgylchedd gwaith penodol y gweithiwr, a’r anawsterau dan sylw o ganlyniad i’w Anhawster Dysgu Penodol. Bydd nifer fach o asesiadau cydnabyddedig hefyd yn cael eu cwblhau i roi tystiolaeth o wendidau a allai effeithio’n negyddol ar fywyd gwaith y gweithiwr. Bydd yr asesiad yn darparu:

  • Adroddiad manwl llawn gydag argymhellion ymarferol ac awgrymiadau y gellir eu gweithredu yn y gweithle.
  • Cysylltiadau neu awgrymiadau ar gyfer technoleg Gynorthwyol, gan gynnwys meddalwedd galluogi, y gellid ei defnyddio.
  • Addasiadau rhesymol posibl yn y gweithle y byddai eu hangen.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk

Ymgynghori

Mae gan Ganolfan Dyslecsia Miles dîm o aseswyr cymwys, profiadol iawn sy’n cynnig gwasanaeth ymgynghori i oedolion a rhieni, boed yn gysylltiedig â’r gweithle, yr ysgol neu’r cartref.

Gall ein haseswyr gynghori ar asesiadau, addasiadau rhesymol, cefnogaeth wahaniaethol ac unigol. Gall sesiwn ymgynghori gymryd rhwng awr a dwy awr yn dibynnu ar y gofynion.

  • Gellir cynnig y gwasanaeth hwn dros y ffôn gydag adroddiad ysgrifenedig yn cael ei anfon fel dilyniant.
  • O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae addasiadau rhesymol yn ofyniad cyfreithiol; gallwn gynnig cyngor a chefnogaeth i gyflogwyr ar weithredu arferion gwaith cyfeillgar i rai â dyslecsia yn llwyddiannus.

Mae gan ein haseswyr arbenigol Dystysgrif Ymarfer Asesu AMBDA (APC) a Thystysgrifau Ymarfer PATOSS neu BDA.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu asesiad, cysylltwch â ni ar 01248 382203/383618 neu e-bostiwch dyslex-admin@bangor.ac.uk